roeddwn yn meddwl am beth ydyw i weithio yn saesneg yn fy meddylie tra’n peintio a ceisio meddwl am beth fyddai fel i weithio drwy gyfrwng y gymraeg yn feddyliol yn unig…popeth drwy’r gymraeg. tybed a fydde hwn yn newid y peintiad a’r dewisiadau byddwn yn eu gwneud. ma hwn yn bwnc diddorol a dweud y gwir achos mi fydde’n brawf anodd iawn i geisio’i brofi yn hollol deg. dwi wedi dod i ben a’r cwrs erbyn heddiw ond mi fydda i yn cario ymlaen a’r blog yma a hefyd blog ychwanegol ar gyfer gweithio ar fy sioe un-fenyw. mae’n rhaid cyfadde fy mod yn teimlo’n wahanol rhywffordd tra’n defnyddio cymraeg yn unig. siarad eto’n wahaol i glywed y gymraeg yn fy mhen. falle rho i dro i’r syniad yma yn y dyfodol.

mae’r syniad yma yn taro ar y cwestiwn, beth yw e i fod yn gymraes ac yn artist gymraeg yng nghymru. ma bod yn gymraes tramor yn brofiad rhydd iawn a dwi wedi cael flynyddoedd felly. rhyddid  mewn un ffordd ond eto dyw’r syniad o fod yn gymraes byth yn yng ngadael i. o ran ddod i ben i’r cwrs yn y brif goleg celf yng nghymru yng nghaerdydd, mae’n druenu dweud mae dim ond un athro sy’n siarad cymraeg yn rhygl. i fod yn deg, fel dysgwr, mae andre stitt yn weddol rhygl. medrwn ddweud fod cael y tiwtor yn trafod yng ngwaith yng nghymraeg yn brofiad personol , clir iawn. yn teimlo’n gywir rhywffordd er fy mod ddim yn siarad llawer o gymraeg da ffrindie felly am fod cyn leied o gymru yn y coleg.

 

un peth sy’n taro yw y ffaith fod bryn terfel yn enw fyd-enwog, ac wedi i syr geraint evans fod o’i flaen, mae ei henwe nhw yn agor drysau ac yn codi arian enfawr, sef y coleg cerdd a drama newydd! digonedd o arian i cerdd ac opera. wel pam lai. mi ddyle fod, a dwi mor ddiolchgar fod hyn yn bodoli…ond, beth an celf…druan o celf…ma angen cymro a chymraes..a mwy eto, i roi cymru celf ar y map er mwyn medru codi arian ar gyfer celf cyfoes nawr!y broblem yw y ffaith fod celf yn hollol agored yn y diwedd, gyda cerdd clasurol, mae’r darne yno’n barod i’w perfformio. handy iawn i’r goreuon fedru llenwi’r gaps sydd yna yn barod iddynt eu llenwi…

 

reit, dwi wedi dweud y’n rhan, mi orffennaf yn saesneg.